Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 50:22-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Clyw! Rhyfel yn y wlad!Dinistr mawr!

23. Gwêl fel y drylliwyd gordd yr holl ddaear,ac y torrwyd hi'n dipiau.Gwêl fel yr aeth Babilon yn syndodymhlith y cenhedloedd.

24. Gosodais fagl i ti, Babilon,a daliwyd di heb yn wybod iti;fe'th gafwyd ac fe'th ddaliwydam iti ymryson yn erbyn yr ARGLWYDD.

25. Agorodd yr ARGLWYDD ei ystordy,a dwyn allan arfau ei ddigofaint;oherwydd gwaith ARGLWYDD Dduw y Lluoedd yw hynyng ngwlad y Caldeaid.

26. Dewch yn ei herbyn o'r cwr eithaf,ac agorwch ei hysguboriau hi;gwnewch bentwr ohoni fel pentwr ŷd,a'i difetha'n llwyr, heb weddill iddi.

27. Lladdwch ei holl fustych hi,a gadael iddynt ddisgyn i'r lladdfa.Gwae hwy! Daeth eu dydd,ac amser eu cosbi.

28. Clyw! Y maent yn ffoi ac yn dianc o wlad Babilon,i gyhoeddi yn Seion ddial yr ARGLWYDD ein Duw,ei ddial am ei deml.

29. “Galwch y saethwyr yn erbyn Babilon,pob un sy'n tynnu bwa;gwersyllwch yn ei herbyn o amgylch,rhag i neb ddianc ohoni.Talwch iddi yn ôl ei gweithred,ac yn ôl y cwbl a wnaeth gwnewch iddi hithau;canys bu'n drahaus yn erbyn yr ARGLWYDD, yn erbyn Sanct Israel.

30. Am hynny fe syrth ei gwŷr ifainc yn ei heolydd,a dinistrir ei holl filwyr y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD.

31. “Dyma fi yn dy erbyn di, yr un balch,”medd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd,“canys daeth dy ddydd, a'r awr i mi dy gosbi.

32. Tramgwydda'r balch a syrth heb neb i'w godi;cyneuaf yn ei ddinasoedd dân fydd yn difa'i holl amgylchedd.”

33. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Gorthrymwyd pobl Israel, a phobl Jwda gyda hwy; daliwyd hwy'n dynn gan bawb a'u caethiwodd, a gwrthod eu gollwng.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 50