1. Dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD am Fabilon, gwlad y Caldeaid, trwy'r proffwyd Jeremeia:
2. “Mynegwch ymysg y cenhedloedd, a chyhoeddwch;codwch faner a chyhoeddwch;peidiwch â chelu ond dywedwch,‘Goresgynnwyd Babilon, gwaradwyddwyd Bel, brawychwyd Merodach.Daeth cywilydd dros ei heilunod a drylliwyd ei delwau.’
3. Canys daeth cenedl yn ei herbyn o'r gogledd;gwna ei gwlad yn anghyfannedd,ac ni thrig ynddi na dyn nac anifail.Ffoesant ac aethant ymaith.”
4. “Yn y dyddiau hynny a'r amser hwnnw,” medd yr ARGLWYDD, “daw pobl Israel a phobl Jwda ynghyd gan wylo, i ymofyn am yr ARGLWYDD eu Duw.
5. Holant am Seion, i droi eu hwyneb tuag yno, a dweud, ‘Dewch, glynwn wrth yr ARGLWYDD mewn cyfamod tragwyddol nas anghofir.’
6. “Praidd ar ddisberod oedd fy mhobl; gyrrodd eu bugeiliaid hwy ar gyfeiliorn, a'u troi ymaith ar y mynyddoedd; crwydrasant o fynydd i fryn, gan anghofio'u corlan.
7. Yr oedd pob un a ddôi o hyd iddynt yn eu difa, a'u gelynion yn dweud, ‘Nid oes dim bai arnom ni, oherwydd y maent wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, eu gwir gynefin—yr ARGLWYDD, gobaith eu hynafiaid.’
8. “Ffowch o ganol Babilon, ewch allan o wlad y Caldeaid,a safwch fel y bychod o flaen y praidd;
9. canys wele fi'n cynhyrfu ac yn arwain yn erbyn Babilondyrfa o genhedloedd mawrion o dir y gogledd;safant yn rhengoedd yn ei herbyn;ac oddi yno y goresgynnir hi.Y mae eu saethau fel rhai milwr cyfarwydd na ddychwel yn waglaw.
10. Ysbail fydd Caldea, a chaiff ei holl ysbeilwyr eu gwala,” medd yr ARGLWYDD.
11. “Chwi, y rhai sy'n mathru f'etifeddiaeth,er ichwi lawenhau, er ichwi orfoleddu,er ichwi brancio fel llo mewn porfa,er ichwi weryru fel meirch,
12. caiff eich mam ei chywilyddio'n ddirfawr,a gwaradwyddir yr un a roes enedigaeth ichwi.Ie, bydd yn wehilion y cenhedloedd,yn anialwch, yn grastir ac yn ddiffeithwch.
13. Oherwydd digofaint yr ARGLWYDD, ni phreswylir hi,ond bydd yn anghyfannedd i gyd;bydd pawb sy'n mynd heibio i Fabilon yn arswydoac yn synnu at ei holl glwyfau.
14. “Trefnwch eich rhengoedd yn gylch yn erbyn Babilon,bawb sy'n tynnu bwa;ergydiwch ati, heb arbed saethau,canys yn erbyn yr ARGLWYDD y pechodd.
15. Bloeddiwch yn ei herbyn mewn goruchafiaeth, o bob cyfeiriad:‘Gwnaeth arwydd o ymostyngiad,cwympodd ei hamddiffynfeydd,bwriwyd ei muriau i lawr.’Gan mai dial yr ARGLWYDD yw hyn,dialwch arni;megis y gwnaeth hi, gwnewch iddi hithau.
16. Torrwch ymaith o Fabilon yr heuwr,a'r sawl sy'n trin cryman ar adeg medi.Rhag cleddyf y gorthrymwrbydd pob un yn troi at ei bobl ei hun,a phob un yn ffoi i'w wlad.