Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 48:38-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. Ar ben pob tŷ yn Moab, ac ym mhob heol, bydd galar, oherwydd drylliaf Moab fel llestr nad oes neb yn ei hoffi,” medd yr ARGLWYDD.

39. “Pa fodd y malwyd hi? Udwch! Pa fodd y troes Moab ei gwegil o gywilydd? Felly y bydd Moab yn gyff gwawd ac yn achos arswyd i bawb o'i hamgylch.”

40. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Wele, bydd un fel eryr yn ehedeg,ac yn lledu ei adenydd dros Moab;

41. gorchfygir y dinasoedd,ac enillir yr amddiffynfeydd,a bydd calon dewrion Moab, y diwrnod hwnnw,fel calon gwraig wrth esgor.

42. Difethir Moab o fod yn bobl,canys ymfawrygodd yn erbyn yr ARGLWYDD.

43. Dychryn, ffos a maglsydd yn dy erbyn, ti breswylydd Moab,”medd yr ARGLWYDD.

44. “Y sawl a ffy rhag y dychryn,fe syrth i'r ffos;a'r sawl a gyfyd o'r ffos,fe'i delir yn y fagl.Dygaf yr holl bethau hyn arni, ar Moab, ym mlwyddyn ei chosb,”medd yr ARGLWYDD.

45. “Gerllaw Hesbon y safant,yn ffoaduriaid heb nerth;canys aeth tân allan o Hesbon,a fflam o blas Sihon,ac yswyd talcen Moaba chorun plant y cythrwfl.

46. Gwae di, Moab! Darfu am bobl Cemos;cymerwyd dy feibion ymaith i gaethglud,a'th ferched i gaethiwed.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 48