Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 48:26-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. “Gwnewch hi'n feddw,canys ymfawrygodd yn erbyn yr ARGLWYDD;ymdrybaedded Moab yn ei chwydfa,a bydded felly'n gyff gwawd.

27. Oni bu Israel yn gyff gwawd i ti,er nad oedd ymysg lladron,fel yr ysgydwit dy ben wrth sôn amdani?

28. “Cefnwch ar y dinasoedd, a thrigwch yn y creigiau,chwi breswylwyr Moab;byddwch fel colomen yn nythuyn ystlysau'r graig uwch yr hafn.

29. Clywsom am falchder Moab,ac un falch iawn yw hi—balch, hy, ffroenuchel ac uchelgeisiol.

30. Mi wn,” medd yr ARGLWYDD, “ei bod yn haerllug;y mae ei hymffrost yn gelwydd,a'i gweithredoedd yn ffals.

31. Am hynny fe udaf dros Moab;llefaf dros Moab i gyd,griddfanaf dros bobl Cir-heres.

32. Wylaf drosot yn fwy nag yr wylir dros Jaser,ti, winwydden Sibma;estynnodd dy gangau hyd y môr,yn cyrraedd hyd Jaser;ond rhuthrodd yr anrheithiwr ar dy ffrwythauac ar dy gynhaeaf gwin.

33. Bydd diwedd ar lawenydd a gorfoleddyn y doldir ac yng ngwlad Moab;gwnaf i'r gwin ddarfod o'r cafnau,ac ni fydd neb yn sathru â bloddest—bloddest nad yw'n floddest.

34. “Daw cri o Hesbon ac Eleale; codant eu llef hyd Jahas, o Soar hyd Horonaim ac Eglath-Shalisheia, oherwydd aeth dyfroedd Nimrim yn ddiffaith.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 48