Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 48:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Am Moab, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel:“Gwae Nebo, canys fe'i hanrheithiwyd!Cywilyddiwyd a daliwyd Ciriathaim;cywilyddiwyd Misgab, a'i difetha.

2. Ni bydd gogoniant Moab mwyach;yn Hesbon cynlluniwyd drwg yn eu herbyn:‘Dewch, dinistriwn hi fel na bydd yn genedl!’Distewir dithau, Madmen,erlidia'r cleddyf di.

3. Clyw waedd o Horonaim,‘Anrhaith a dinistr mawr!’

4. Dinistriwyd Moab;clywir ei gwaedd hyd yn Soar.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 48