Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 45:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma'r gair a lefarodd y proffwyd Jeremeia wrth Baruch fab Nereia, pan ysgrifennodd ef y geiriau hyn mewn llyfr, yn ôl cyfarwyddyd Jeremeia, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:

2. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel wrthyt ti, Baruch:

3. ‘Dywedaist, “Gwae fi, oherwydd ychwanegodd yr ARGLWYDD dristwch at fy ngofid; diffygiais gan fy ngriddfan, ac ni chefais orffwys.’ ”

4. Fel hyn y dywedi wrth Baruch: ‘Dyma air yr ARGLWYDD: Wele, fe dynnaf i lawr yr hyn a adeiledais, a diwreiddio'r hyn a blennais. Digwydd hyn i'r holl wlad.

5. A thithau, a geisi i ti dy hun bethau mawrion? Paid â'u ceisio, oherwydd dyma fi'n dod â drwg ar bob cnawd,’ medd yr ARGLWYDD; ‘ond gadawaf i ti arbed dy fywyd, ple bynnag yr ei.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 45