Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 43:4-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Ac ni wrandawodd Johanan fab Carea, a swyddogion y llu a'r bobl, ar lais yr ARGLWYDD, i aros yn nhir Jwda.

5. Ond cymerodd Johanan fab Carea a swyddogion y llu holl weddill Jwda, a oedd wedi dychwelyd i drigo yng ngwlad Jwda o blith yr holl genhedloedd y gwasgarwyd hwy yn eu plith—

6. y gwŷr, y gwragedd a'r plant, merched y brenin a phawb yr oedd Nebusaradan, pennaeth y gwylwyr, wedi eu gadael gyda Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan; a hefyd y proffwyd Jeremeia a Baruch fab Nereia.

7. Ac aethant i wlad yr Aifft, heb wrando ar lais yr ARGLWYDD, a chyrraedd Tahpanhes.

8. Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia yn Tahpanhes:

9. “Cymer gerrig mawr, ac yng ngŵydd pobl Jwda gosod hwy mewn morter yn y palmant wrth ddrws tŷ Pharo yn Tahpanhes,

10. a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Dyma fi'n anfon i gyrchu fy ngwas, Nebuchadnesar brenin Babilon, a chodaf ei orsedd ar y cerrig hyn a osodais, ac fe daena ef ei ortho drostynt.

11. Yna fe ddaw a tharo gwlad yr Aifft, gan ladd y rhai sydd i'w lladd, a chaethiwo'r rhai sydd i fynd i gaethiwed, a rhoi i'r cleddyf y rhai sydd i'w rhoi i'r cleddyf.

12. Bydd yn cynnau tân yn nhemlau duwiau'r Aifft ac yn eu llosgi, a chario'r duwiau ymaith. A bydd yn glanhau gwlad yr Aifft fel y bydd bugail yn glanhau ei wisg o'r llau; ac yna'n mynd ymaith mewn heddwch.

13. Bydd yn malu'r colofnau yn Nheml yr Haul yng ngwlad yr Aifft, ac yn llosgi temlau duwiau'r Aifft â thân.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 43