Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 43:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan orffennodd Jeremeia lefaru wrth y bobl yr holl eiriau a anfonodd yr ARGLWYDD eu Duw atynt drwyddo ef,

2. atebodd Asareia fab Hosaia a Johanan fab Carea a'r holl rai sarhaus, a dweud wrth Jeremeia, “Dweud celwydd yr wyt; ni orchmynnodd yr ARGLWYDD ein Duw iti ddweud, ‘Peidiwch â mynd i fyw i'r Aifft.’

3. Baruch fab Nereia sydd wedi dy annog di yn ein herbyn, er mwyn ein rhoi yng ngafael y Caldeaid, iddynt hwy ein lladd neu ein caethgludo i Fabilon.”

4. Ac ni wrandawodd Johanan fab Carea, a swyddogion y llu a'r bobl, ar lais yr ARGLWYDD, i aros yn nhir Jwda.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 43