Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 41:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y seithfed mis daeth Ismael fab Nethaneia, fab Elisama, o deulu'r brenin, a chydag ef bendefigion y brenin, deg ohonynt, i Mispa at Gedaleia fab Ahicam; a thra oeddent yn bwyta pryd gyda'i gilydd yn Mispa,

2. cododd Ismael fab Nethaneia a'r dengwr, a tharo Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan, â'r cleddyf, a lladd yr un oedd wedi ei osod gan frenin Babilon yn arolygydd dros y wlad.

3. Hefyd lladdodd Ismael yr holl Iddewon oedd gyda Gedaleia yn Mispa, a milwyr y Caldeaid a oedd yn digwydd bod yno.

4. Trannoeth wedi lladd Gedaleia, cyn bod neb yn gwybod,

5. daeth gwŷr o Sichem a Seilo a Samaria, pedwar ugain ohonynt, wedi eillio'u barfau a rhwygo'u dillad ac archolli eu cyrff, â bwydoffrymau a thus yn eu dwylo i'w dwyn i deml yr ARGLWYDD.

6. Yna daeth Ismael fab Nethaneia allan o Mispa i gyfarfod â hwy, gan wylo wrth ddod. Pan gyfarfu â hwy dywedodd, “Dewch at Gedaleia fab Ahicam.”

7. Wedi iddynt gyrraedd canol y ddinas, lladdwyd hwy gan Ismael fab Nethaneia a'r gwŷr oedd gydag ef, a'u bwrw i bydew.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 41