Jeremeia 40:4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Edrych yn awr, yr wyf yn dy ryddhau di heddiw o'r cadwynau sydd arnat. Os wyt yn dewis dod gyda mi i Fabilon, tyrd, a gofalaf amdanat; os nad wyt yn dewis dod gyda mi, paid; edrych, y mae'r holl wlad o'th flaen, dos i'r fan sydd orau gennyt.