Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 4:15-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Clyw! Cennad o wlad Dan, ac un yn cyhoeddi gofid o Fynydd Effraim,

16. “Rhybuddiwch y cenhedloedd: ‘Dyma ef!’Cyhoeddwch i Jerwsalem: ‘Daw gwŷr i'ch gwarchae o wlad bell,a chodi eu llais yn erbyn dinasoedd Jwda.

17. Fel gwylwyr maes fe'i hamgylchynant,am iddi wrthryfela yn fy erbyn i,’ ” medd yr ARGLWYDD.

18. “Dy ffordd a'th weithredoedd sydd wedi dod â hyn arnat.Dyma dy gosb, ac un chwerw yw; fe'th drawodd hyd at dy galon.”

19. Fy ngwewyr! Fy ngwewyr! Rwy'n gwingo mewn poen.O, barwydydd fy nghalon!Y mae fy nghalon yn derfysg ynof; ni allaf dewi.Canys clywaf sain utgorn, twrf rhyfel.

20. Daw dinistr ar ddinistr, anrheithir yr holl dir.Yn ddisymwth anrheithir fy mhebyll, a'm llenni mewn eiliad.

21. Pa hyd yr edrychaf ar faner,ac y gwrandawaf ar sain utgorn?

22. Y mae fy mhobl yn ynfyd, nid ydynt yn fy adnabod i;plant angall ydynt, nid rhai deallus mohonynt.Y maent yn fedrus i wneud drygioni, ond ni wyddant sut i wneud daioni.

23. Edrychais tua'r ddaear—afluniaidd a gwag ydoedd;tua'r nefoedd—ond nid oedd yno oleuni.

24. Edrychais tua'r mynyddoedd,ac wele hwy'n crynu,a'r holl fryniau yn gwegian.

25. Edrychais, ac wele, nid oedd neb oll;ac yr oedd holl adar y nefoedd wedi cilio.

26. Edrychais, ac wele'r dolydd yn ddiffeithwch,a'r holl ddinasoedd yn ddinistr,o achos yr ARGLWYDD, o achos angerdd ei lid.

27. Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Bydd yr holl wlad yn anrhaith,ond ni wnaf ddiwedd arni.

28. Am hyn fe alara'r ddaear, ac fe dywylla'r nefoedd fry,oherwydd imi fynegi fy mwriad;ac ni fydd yn edifar gennyf, ac ni throf yn ôl oddi wrtho.”

29. Rhag trwst marchogion a phlygwyr bwa y mae'r holl ddinas yn ffoi,yn mynd i'r drysni ac yn dringo i'r creigiau.Gadewir yr holl ddinasoedd heb neb i drigo ynddynt.

30. A thithau'n anrheithiedig,beth wyt ti'n ei wneud wedi dy wisgo ag ysgarlad,ac wedi ymdrwsio â thlysau aur, a lliwio dy lygaid?Yn ofer yr wyt yn dy wneud dy hun yn deg.Bydd dy gariadon yn dy ddirmygu,ac yn ceisio dy einioes.

31. Ie, clywaf gri fel gwraig yn esgor,llef ingol fel un yn esgor ar ei chyntafanedig—cri merch Seion yn ochain, ac yn gwasgu ar ei dwylo:“Gwae fi! Rwy'n diffygio, a'r lleiddiaid am fy einioes.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 4