13. Wele, bydd yn esgyn fel cymylau, a'i gerbydau fel corwynt,ei feirch yn gyflymach nag eryrod.Gwae ni! Anrheithiwyd ni.
14. Golch dy galon oddi wrth ddrygioni, Jerwsalem, iti gael dy achub.Pa hyd y lletya d'amcanion drygionus o'th fewn?
15. Clyw! Cennad o wlad Dan, ac un yn cyhoeddi gofid o Fynydd Effraim,
16. “Rhybuddiwch y cenhedloedd: ‘Dyma ef!’Cyhoeddwch i Jerwsalem: ‘Daw gwŷr i'ch gwarchae o wlad bell,a chodi eu llais yn erbyn dinasoedd Jwda.
17. Fel gwylwyr maes fe'i hamgylchynant,am iddi wrthryfela yn fy erbyn i,’ ” medd yr ARGLWYDD.
18. “Dy ffordd a'th weithredoedd sydd wedi dod â hyn arnat.Dyma dy gosb, ac un chwerw yw; fe'th drawodd hyd at dy galon.”
19. Fy ngwewyr! Fy ngwewyr! Rwy'n gwingo mewn poen.O, barwydydd fy nghalon!Y mae fy nghalon yn derfysg ynof; ni allaf dewi.Canys clywaf sain utgorn, twrf rhyfel.
20. Daw dinistr ar ddinistr, anrheithir yr holl dir.Yn ddisymwth anrheithir fy mhebyll, a'm llenni mewn eiliad.