Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 4:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. nid i nithio nac i buro. Daw gwynt cryf ataf fi;yn awr myfi, ie myfi, a draethaf farn yn eu herbyn hwy.”

13. Wele, bydd yn esgyn fel cymylau, a'i gerbydau fel corwynt,ei feirch yn gyflymach nag eryrod.Gwae ni! Anrheithiwyd ni.

14. Golch dy galon oddi wrth ddrygioni, Jerwsalem, iti gael dy achub.Pa hyd y lletya d'amcanion drygionus o'th fewn?

15. Clyw! Cennad o wlad Dan, ac un yn cyhoeddi gofid o Fynydd Effraim,

16. “Rhybuddiwch y cenhedloedd: ‘Dyma ef!’Cyhoeddwch i Jerwsalem: ‘Daw gwŷr i'ch gwarchae o wlad bell,a chodi eu llais yn erbyn dinasoedd Jwda.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 4