1. “Os dychweli, Israel,” medd yr ARGLWYDD, “os dychweli ataf fi,a rhoi heibio dy ffieidd-dra o'm gŵydd, a pheidio â simsanu,
2. ac os tyngi mewn gwirionedd, mewn barn a chyfiawnder, ‘Byw yw yr ARGLWYDD’,yna fe ymfendithia'r cenhedloedd ynddo, ac ymglodfori ynddo.”
3. Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth bobl Jwda a Jerwsalem:“Braenarwch i chwi fraenar, a pheidiwch â hau mewn drain.
4. Ymenwaedwch i'r ARGLWYDD, symudwch flaengroen eich calon,bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem,rhag i'm digofaint ddod allan fel tâna llosgi heb neb i'w ddiffodd,oherwydd drygioni eich gweithredoedd.”
5. “Mynegwch yn Jwda, cyhoeddwch yn Jerwsalem, a dywedwch,‘Canwch utgorn yn y tir, bloeddiwch yn uchel.’A dywedwch, ‘Ymgynullwch, ac awn i'r dinasoedd caerog.’
6. Codwch, ffowch tua Seion, ffowch heb sefyllian;oherwydd dygaf ddrygioni o'r gogledd, a dinistr mawr.
7. Daeth llew i fyny o'i loches, cychwynnodd difethwr y cenhedloedd,a daeth allan o'i drigle i wneud dy dir yn anrhaith,ac fe ddinistrir dy ddinasoedd heb breswyliwr.
8. Am hyn ymwregyswch â sachliain, galarwch ac udwch;oherwydd nid yw angerdd llid yr ARGLWYDD wedi troi oddi wrthym.
9. Ac yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,“fe balla hyder y brenin a hyder y tywysogion;fe synna'r offeiriaid, ac fe ryfedda'r proffwydi.”