Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 38:20-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Dywedodd Jeremeia, “Ni'th roddir yn eu gafael. Gwrando yn awr ar lais yr ARGLWYDD yn yr hyn yr wyf yn ei lefaru wrthyt, a bydd yn dda iti, a chedwir dy einioes.

21. Os gwrthodi fynd allan, dyma'r gair a ddatguddiodd yr ARGLWYDD i mi:

22. ‘Wele, caiff yr holl wragedd a adawyd yn nhŷ brenin Jwda eu dwyn allan at swyddogion brenin Babilon, ac fe ddywedant,“Hudodd dy gyfeillion di, a buont yn drech na thi;yn awr, a'th draed wedi glynu yn y llaid, troesant draw oddi wrthyt.’ ”

23. Dygir allan dy holl wragedd a'th blant at y Caldeaid, ac ni ddihengi dithau o'u gafael, ond fe'th ddelir yng ngafael brenin Babilon, a llosgir y ddinas hon â thân.”

24. Yna dywedodd Sedeceia wrth Jeremeia, “Paid â gadael i neb wybod am y geiriau hyn, ac ni fyddi farw.

25. Ond os clyw'r swyddogion i mi ymddiddan â thi, a dod atat a dweud wrthyt, ‘Mynega i ni beth a draethodd y brenin wrthyt ti, a beth a ddywedaist wrth y brenin; paid â chelu dim oddi wrthym, ac ni'th roddwn i farwolaeth’,

26. yna dywedi wrthynt, ‘Yr oeddwn yn gwneud cais yn ostyngedig i'r brenin, ar iddo beidio â'm gyrru'n ôl i dŷ Jonathan i farw yno.’ ”

27. Pan ddaeth yr holl swyddogion at Jeremeia, a'i holi, mynegodd ef iddynt bob peth yn ôl gorchymyn y brenin. A pheidiasant â'i holi ragor, ac ni chlywyd am y neges.

28. Ac arhosodd Jeremeia yng nghyntedd y gwylwyr hyd y dydd y syrthiodd Jerwsalem, ac yr oedd yno pan syrthiodd Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 38