Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 37:10-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Oherwydd pe baech yn trechu holl lu'r Caldeaid sydd yn rhyfela yn eich erbyn, heb adael neb ond y rhai archolledig, eto byddent yn codi bob un o'i babell ac yn llosgi'r ddinas hon â thân.’ ”

11. Pan giliodd llu'r Caldeaid oddi wrth Jerwsalem o achos llu Pharo,

12. yr oedd Jeremeia'n gadael Jerwsalem i fynd i dir Benjamin i gymryd meddiant o'i dreftadaeth yno ymysg y bobl;

13. a phan gyrhaeddodd borth Benjamin, yr oedd swyddog y gwarchodlu yno, dyn o'r enw Ireia fab Selemeia, fab Hananeia; daliodd ef y proffwyd Jeremeia a dweud, “Troi at y Caldeaid yr wyt ti.”

14. Atebodd Jeremeia ef, “Celwydd yw hynny; nid wyf yn troi at y Caldeaid.” Ond ni wrandawai Ireia arno, ond fe'i daliodd a mynd ag ef at y swyddogion.

15. Ffyrnigodd y swyddogion at Jeremeia, a'i guro a'i garcharu yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd, y tŷ a wnaethpwyd yn garchardy.

16. Felly yr aeth Jeremeia i'r ddaeargell ac aros yno dros amryw o ddyddiau.

17. Yna anfonodd y Brenin Sedeceia, a'i dderbyn i'w ŵydd a'i holi'n gyfrinachol yn ei dŷ, a dweud, “A oes gair oddi wrth yr ARGLWYDD?” Atebodd Jeremeia, “Oes; fe'th roddir yn llaw brenin Babilon.”

18. A dywedodd Jeremeia wrth y Brenin Sedeceia, “Pa ddrwg a wneuthum i ti neu i'th weision neu i'r bobl hyn, i beri i chwi fy rhoi yng ngharchar?

19. Ple mae eich proffwydi a broffwydodd i chwi a dweud na ddôi brenin Babilon yn eich erbyn, nac yn erbyn y wlad hon?

20. Yn awr, gwrando, f'arglwydd frenin, a doed fy nghais o'th flaen. Paid â'm hanfon yn ôl i dŷ Jonathan yr ysgrifennydd, rhag i mi farw yno.”

21. Yna rhoes y Brenin Sedeceia orchymyn, a rhoddwyd Jeremeia yng ngofal llys y gwylwyr, a rhoddwyd iddo ddogn dyddiol o un dorth o fara o Stryd y Pobyddion, nes darfod yr holl fara yn y ddinas. Ac arhosodd Jeremeia yng nghyntedd y gwylwyr.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 37