Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 36:30-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim brenin Jwda: Ni bydd iddo neb i eistedd ar orsedd Dafydd; teflir allan ei gelain i wres y dydd a rhew'r nos.

31. Ymwelaf ag ef ac â'i had a'i weision am eu drygioni, a dwyn arnynt hwy a thrigolion Jerwsalem a phobl Jwda yr holl ddinistr a leferais yn eu herbyn, a hwythau heb wrando.’ ”

32. Yna cymerodd Jeremeia sgrôl arall, a'i rhoi i Baruch fab Nereia, yr ysgrifennydd, ac ysgrifennodd ef ynddi o enau Jeremeia holl eiriau'r llyfr a losgodd Jehoiacim brenin Jwda. Ychwanegodd atynt hefyd lawer o eiriau tebyg.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 36