Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 35:2-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. “Dos i dŷ'r Rechabiaid, a siarad â hwy; pâr iddynt ddod i dŷ'r ARGLWYDD, i un o'r ystafelloedd yno, a chynnig iddynt win i'w yfed.”

3. Yna cymerais Jaasaneia, mab Jeremeia fab Habasineia, a'i frodyr, a'i holl feibion, a holl deulu'r Rechabiaid.

4. Deuthum â hwy i dŷ'r ARGLWYDD, i ystafell meibion Hanan fab Igdaleia, gŵr Duw, sef yr ystafell sydd yn ymyl ystafell y tywysogion, ac uwchben ystafell Maaseia fab Salum, ceidwad y drws.

5. Rhois gerbron teulu'r Rechabiaid ffiolau llawn o win a chwpanau, a dywedais wrthynt, “Yfwch win.”

6. Ond dywedasant, “Nid yfwn ni win, oherwydd gorchmynnodd Jonadab, mab Rechab ein tad, i ni, ‘Peidiwch ag yfed gwin, chwi na'ch plant, byth;

7. peidiwch ag adeiladu tŷ, na hau had, na phlannu gwinllan, na meddiannu dim; ond lle bynnag y byddwch yn aros, trigwch mewn pebyll bob amser, er mwyn ichwi fyw am ddyddiau lawer yn y wlad lle'r ydych.’

8. A buom yn ufudd i lais Jonadab, mab Rechab ein tad, ym mhob peth a orchmynnodd i ni; nid ydym ni na'n gwragedd na'n meibion na'n merched erioed wedi yfed gwin,

9. nac adeiladu tai i fyw ynddynt, nac wedi cael na gwinllan na maes na had.

10. Yr ydym yn byw mewn pebyll, ac yn gwneud popeth fel y gorchmynnodd Jonadab ein tad inni.

11. Ond pan gododd Nebuchadnesar brenin Babilon yn erbyn y wlad, dywedasom, ‘Dewch, awn i Jerwsalem i osgoi llu'r Caldeaid a llu Syria’; a dyna pam yr ydym yn byw yn Jerwsalem.”

12. Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,

13. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Dos a llefara wrth bobl Jwda a phreswylwyr Jerwsalem. Oni chymerwch eich disgyblu i wrando fy ngeiriau?’ medd yr ARGLWYDD.

14. ‘Fe gadwyd geiriau Jonadab fab Rechab pan orchmynnodd i'w blant nad yfent win, oherwydd nid ydynt yn ei yfed hyd heddiw, ond y maent yn ufuddhau i orchymyn eu tad. Ond er i mi lefaru'n daer wrthych, nid ydych chwi'n ufuddhau i mi.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 35