Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 32:42-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

42. “Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Megis y dygais ar y bobl hyn yr holl ddrwg mawr hwn, felly y dygaf arnynt yr holl ddaioni a addawaf iddynt.

43. Fe brynir meysydd yn y wlad hon y dywedwch amdani, “Anghyfannedd yw, heb ddyn nac anifail, ac wedi ei rhoi yng ngafael y Caldeaid.”

44. Prynant feysydd am arian, ac arwyddo'r gweithredoedd, a'u selio a chael tystion, yn nhiriogaeth Benjamin, o amgylch Jerwsalem, yn ninasoedd Jwda, yn ninasoedd y mynydd-dir, yn ninasoedd y Seffela ac yn ninasoedd y Negef. Mi a adferaf eu llwyddiant,’ medd yr ARGLWYDD.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 32