31. ‘Oherwydd enynnodd y ddinas hon fy nigofaint a'm llid o'r dydd yr adeiladwyd hi hyd heddiw; symudaf hi o'm gŵydd,
32. o achos yr holl ddrygioni a wnaeth pobl Israel a phobl Jwda i'm digio—hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, eu proffwydi, pobl Jwda a phreswylwyr Jerwsalem.
33. Troesant wegil tuag ataf, ac nid wyneb; dysgais hwy yn gyson a thaer, ond ni fynnent wrando na derbyn gwers.
34. Rhoesant eu ffieidd-dra yn y tŷ a alwyd ar fy enw, a'i halogi.
35. Codasant uchelfeydd i Baal yn nyffryn Ben-hinnom, i aberthu eu meibion a'u merched i Moloch; ni orchmynnais hyn iddynt, ac ni ddaeth i'm meddwl iddynt wneud y fath ffieidd-dra, i beri i Jwda bechu.’
36. “Yn awr, gan hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrth y ddinas hon, y dywedwch y rhoir hi yng ngafael brenin Babilon trwy'r cleddyf a newyn a haint: