Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 32:24-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Y mae'r cloddiau gwarchae wedi cyrraedd at y ddinas i'w goresgyn; trwy'r cleddyf a newyn a haint rhoir y ddinas yng ngafael y Caldeaid sy'n ymladd yn ei herbyn. Y mae'r hyn a ddywedaist wedi digwydd, fel y gweli.

25. Ac yr wyt ti, O ARGLWYDD Dduw, wedi dweud wrthyf, “Pryn y maes ag arian a chymer dystion”, er bod y ddinas i'w rhoi yng ngafael y Caldeaid.’ ”

26. Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,

27. “Myfi yw'r ARGLWYDD, Duw pob cnawd. A oes dim yn rhy ryfeddol i mi?

28. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Yr wyf yn rhoi'r ddinas hon yng ngafael y Caldeaid ac yn llaw Nebuchadnesar brenin Babilon, a bydd ef yn ei chymryd.

29. A daw'r Caldeaid i ymladd yn erbyn y ddinas hon, a'i rhoi ar dân, a'i llosgi ynghyd â'r tai y buont ar eu toeau yn arogldarthu i Baal, ac yn tywallt diodoffrwm i dduwiau eraill, i'm digio i.

30. Oblegid o'u mebyd ni wnaeth pobl Israel a Jwda ddim ond yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg; ni wnaeth pobl Israel ddim ond fy nigio â gwaith eu dwylo,’ medd yr ARGLWYDD.

31. ‘Oherwydd enynnodd y ddinas hon fy nigofaint a'm llid o'r dydd yr adeiladwyd hi hyd heddiw; symudaf hi o'm gŵydd,

32. o achos yr holl ddrygioni a wnaeth pobl Israel a phobl Jwda i'm digio—hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, eu proffwydi, pobl Jwda a phreswylwyr Jerwsalem.

33. Troesant wegil tuag ataf, ac nid wyneb; dysgais hwy yn gyson a thaer, ond ni fynnent wrando na derbyn gwers.

34. Rhoesant eu ffieidd-dra yn y tŷ a alwyd ar fy enw, a'i halogi.

35. Codasant uchelfeydd i Baal yn nyffryn Ben-hinnom, i aberthu eu meibion a'u merched i Moloch; ni orchmynnais hyn iddynt, ac ni ddaeth i'm meddwl iddynt wneud y fath ffieidd-dra, i beri i Jwda bechu.’

36. “Yn awr, gan hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrth y ddinas hon, y dywedwch y rhoir hi yng ngafael brenin Babilon trwy'r cleddyf a newyn a haint:

37. ‘Casglaf hwy o'r holl wledydd y gyrrais hwy iddynt yn fy nig a'm llid a'm soriant mawr, a dychwelaf hwy i'r lle hwn, a gwnaf iddynt breswylio'n ddiogel.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 32