Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 32:23-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Daethant hwy a'i meddiannu, ond ni fuont yn ufudd i'th lais, na rhodio yn dy gyfraith. Ni wnaethant ddim oll o'r hyn a orchmynnaist iddynt, a pheraist tithau i'r holl niwed hwn ddigwydd iddynt.

24. Y mae'r cloddiau gwarchae wedi cyrraedd at y ddinas i'w goresgyn; trwy'r cleddyf a newyn a haint rhoir y ddinas yng ngafael y Caldeaid sy'n ymladd yn ei herbyn. Y mae'r hyn a ddywedaist wedi digwydd, fel y gweli.

25. Ac yr wyt ti, O ARGLWYDD Dduw, wedi dweud wrthyf, “Pryn y maes ag arian a chymer dystion”, er bod y ddinas i'w rhoi yng ngafael y Caldeaid.’ ”

26. Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,

27. “Myfi yw'r ARGLWYDD, Duw pob cnawd. A oes dim yn rhy ryfeddol i mi?

28. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Yr wyf yn rhoi'r ddinas hon yng ngafael y Caldeaid ac yn llaw Nebuchadnesar brenin Babilon, a bydd ef yn ei chymryd.

29. A daw'r Caldeaid i ymladd yn erbyn y ddinas hon, a'i rhoi ar dân, a'i llosgi ynghyd â'r tai y buont ar eu toeau yn arogldarthu i Baal, ac yn tywallt diodoffrwm i dduwiau eraill, i'm digio i.

30. Oblegid o'u mebyd ni wnaeth pobl Israel a Jwda ddim ond yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg; ni wnaeth pobl Israel ddim ond fy nigio â gwaith eu dwylo,’ medd yr ARGLWYDD.

31. ‘Oherwydd enynnodd y ddinas hon fy nigofaint a'm llid o'r dydd yr adeiladwyd hi hyd heddiw; symudaf hi o'm gŵydd,

32. o achos yr holl ddrygioni a wnaeth pobl Israel a phobl Jwda i'm digio—hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, eu proffwydi, pobl Jwda a phreswylwyr Jerwsalem.

33. Troesant wegil tuag ataf, ac nid wyneb; dysgais hwy yn gyson a thaer, ond ni fynnent wrando na derbyn gwers.

34. Rhoesant eu ffieidd-dra yn y tŷ a alwyd ar fy enw, a'i halogi.

35. Codasant uchelfeydd i Baal yn nyffryn Ben-hinnom, i aberthu eu meibion a'u merched i Moloch; ni orchmynnais hyn iddynt, ac ni ddaeth i'm meddwl iddynt wneud y fath ffieidd-dra, i beri i Jwda bechu.’

36. “Yn awr, gan hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrth y ddinas hon, y dywedwch y rhoir hi yng ngafael brenin Babilon trwy'r cleddyf a newyn a haint:

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 32