11. Yna cymerais weithredoedd y pryniant, yr un a seliwyd yn ôl deddf a defod, a'r copi agored,
12. a rhois weithredoedd y pryniant i Baruch fab Nereia, fab Maaseia, yng ngŵydd Hanamel fy nghefnder, ac yng ngŵydd y tystion a arwyddodd weithredoedd y pryniant, ac yng ngŵydd yr holl Iddewon oedd yn eistedd yng nghyntedd y gwarchodlu.
13. Gorchmynnais i Baruch yn eu gŵydd hwy,
14. ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Cymer y gweithredoedd hyn, gweithredoedd y pryniant hwn, yr un a seliwyd a'r un agored, a'u dodi mewn llestr pridd, iddynt barhau dros gyfnod hir.’
15. Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, ‘Prynir eto dai a meysydd a gwinllannoedd yn y tir hwn.’
16. “Wedi imi roi gweithredoedd y pryniant i Baruch fab Nereia, gweddïais ar yr ARGLWYDD fel hyn:
17. ‘O ARGLWYDD Dduw, gwnaethost y nefoedd a'r ddaear â'th fawr allu a'th fraich estynedig; nid oes dim yn amhosibl i ti.
18. Yr wyt yn ffyddlon i filoedd, yn ad-dalu drygioni'r rhieni i'w plant ar eu hôl; Duw mawr, yr Un cadarn, ARGLWYDD y Lluoedd yw dy enw,
19. mawr yn dy gyngor, nerthol yn dy weithred. Y mae dy lygaid ar holl ffyrdd rhai meidrol, i dalu i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd.
20. Gwnaethost arwyddion a rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft, a hyd y dydd hwn yn Israel ac ymhlith pobloedd; gwnaethost i ti'r enw sydd gennyt heddiw.
21. Daethost â'th bobl Israel allan o dir yr Aifft ag arwyddion a rhyfeddodau, ac â llaw gref a braich estynedig, a dychryn mawr;