Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 32:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD yn negfed flwyddyn Sedeceia brenin Jwda, a deunawfed flwyddyn Nebuchadnesar.

2. Y pryd hwnnw yr oedd llu brenin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem, a'r proffwyd Jeremeia wedi ei garcharu yng nghyntedd y gwarchodlu yn llys brenin Jwda.

3. Oherwydd yr oedd Sedeceia brenin Jwda wedi ei garcharu, a dweud, “Pam yr wyt yn proffwydo, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fi'n rhoi'r ddinas hon yng ngafael brenin Babilon, a bydd ef yn ei chymryd;

4. ac ni ddihanga Sedeceia brenin Jwda o afael y Caldeaid, ond fe'i rhoir yn gyfan gwbl yng ngafael brenin Babilon; a bydd yn ymddiddan ag ef wyneb yn wyneb, ac yn edrych arno lygad yn llygad.

5. Bydd yntau'n mynd â Sedeceia i Fabilon, ac yno yr erys nes imi ymweld ag ef,’ medd yr ARGLWYDD. ‘Er ichwi ymladd yn erbyn y Caldeaid, ni chewch lwyddiant’?”

6. Yna dywedodd Jeremeia, “Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

7. ‘Fe ddaw Hanamel, mab dy ewythr Salum, atat a dweud, “Pryn fy maes yn Anathoth, oherwydd gennyt ti y mae hawl perthynas agosaf i'w brynu.” ’

8. A daeth Hanamel, fy nghefnder, ataf i gyntedd y gwarchodlu, yn ôl gair yr ARGLWYDD, a dweud wrthyf, ‘Pryn, yn awr, fy maes yn Anathoth, yn nhir Benjamin, oherwydd gennyt ti y mae'r hawl i etifeddu a'r hawl i brynu; pryn ef iti.’ Gwyddwn wrth hyn mai gair yr ARGLWYDD ydoedd.

9. Yna prynais y maes yn Anathoth gan fy nghefnder Hanamel, a phwysais iddo yr arian, dau sicl ar bymtheg.

10. Arwyddais y gweithredoedd, a'u selio a chymryd tystion, a phwyso'r arian mewn cloriannau.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 32