11. Oherwydd yr wyf gyda thi i'th achub,’ medd yr ARGLWYDD;‘gwnaf ddiwedd ar yr holl genhedloedd y gwasgerais di yn eu plith,ond ni wnaf ddiwedd arnat ti.Ond ceryddaf di yn ôl dy haeddiant; ni'th adawaf yn gwbl ddi-gosb.’ ”
12. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Y mae dy glwy'n anwelladwy a'th archoll yn ddwfn;
13. nid oes neb i ddadlau dy achos;nid oes na moddion nac iachâd i'th ddolur.
14. Y mae dy holl gariadon wedi dy anghofio; nid ydynt yn dy geisio;trewais di â dyrnod gelyn, â chosb greulon,oherwydd maint dy ddrygioni ac amlder dy bechodau.
15. Pam yr wyt yn llefain am dy glwy? Y mae dy ddolur yn anwelladwy.Oherwydd maint dy ddrygioni ac amlder dy bechodauyr wyf wedi gwneud hyn i ti.
16. “Am hynny ysir pawb sy'n dy ysu di; ac fe â pawb sy'n dy ormesu i gyd i gaethiwed.Bydd dy anrheithwyr yn anrhaith, a gwnaf dy holl ysbeilwyr yn ysbail.
17. Oherwydd adferaf iechyd i ti, ac iachâf di o'th friwiau,” medd yr ARGLWYDD,“am iddynt dy alw yn ysgymun,Seion, yr un nad yw neb yn ymofyn amdani.”
18. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Dyma fi'n adfer llwyddiant i bebyll Jacob,yn tosturio wrth ei anheddau.Cyfodir y ddinas ar ei charnedd,a saif y llys yn ei le.
19. Daw allan ohonynt foliant a sain pobl yn gorfoleddu,amlhaf hwy, ac ni leihânt; anrhydeddaf hwy, ac nis bychenir.
20. Bydd eu plant fel y buont gynt, a sefydlir eu cynulliad yn fy ngŵydd;cosbaf bob un a'u gorthryma.
21. Bydd eu pendefig yn un o'u plith, a daw eu llywodraethwr allan o'u mysg;paraf iddo nesáu, ac fe ddaw ataf;canys pwy, o'i ewyllys ei hun, a faidd ddod ataf?” medd yr ARGLWYDD.
22. “A byddwch chwi'n bobl i mi, a minnau'n Dduw i chwi.”
23. Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn mynd allan yn ffyrnig,corwynt yn chwyrlïo, yn troi uwchben y drygionus.
24. Ni phaid digofaint llidiog yr ARGLWYDD, nes cwblhau ei gynlluniau a'u cyflawni;yn y dyddiau diwethaf y deallwch hyn.