Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 29:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma eiriau'r llythyr a anfonodd y proffwyd Jeremeia o Jerwsalem at weddill yr henuriaid yn y gaethglud, a'r offeiriaid a'r proffwydi, ac at yr holl bobl a gaethgludodd Nebuchadnesar o Jerwsalem i Fabilon.

2. Bu hyn wedi i'r Brenin Jechoneia, a'r fam frenhines a'r eunuchiaid, swyddogion Jwda a Jerwsalem, a'r seiri a'r gofaint, adael Jerwsalem.

3. Anfonodd y llythyr trwy law Elasa fab Saffan a Gemareia fab Hilceia, a anfonwyd gan Sedeceia brenin Jwda i Fabilon at Nebuchadnesar brenin Babilon.

4. Dyma ei eiriau: “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘At yr holl gaethglud a gaethgludais o Jerwsalem i Fabilon.

5. Codwch dai a thrigwch ynddynt; plannwch erddi a bwyta o'u ffrwyth;

6. priodwch wragedd, a magu meibion a merched; cymerwch wragedd i'ch meibion a rhoi gwŷr i'ch merched, i fagu meibion a merched; amlhewch yno, ac nid lleihau.

7. Ceisiwch heddwch y ddinas y caethgludais chwi iddi, a gweddïwch drosti ar yr ARGLWYDD, oherwydd yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chwi.’

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 29