1. Yn yr un flwyddyn, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, sef y bedwaredd flwyddyn a'r pumed mis, llefarodd Hananeia fab Assur, y proffwyd o Gibeon, wrthyf yn nhŷ'r ARGLWYDD, yng ngŵydd yr offeiriaid a'r holl bobl, gan ddweud,
2. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Torraf iau brenin Babilon.
3. O fewn dwy flynedd adferaf i'r lle hwn holl lestri tŷ'r ARGLWYDD, a gymerodd Nebuchadnesar brenin Babilon o'r lle hwn a'u dwyn i Fabilon.
4. Adferaf hefyd i'r lle hwn Jechoneia fab Jehoiacim, brenin Jwda, a holl gaethglud Jwda a aeth i Fabilon,’ medd yr ARGLWYDD, ‘canys torraf iau brenin Babilon.’ ”
5. Yna llefarodd y proffwyd Jeremeia wrth Hananeia y proffwyd, yng ngŵydd yr offeiriaid a'r holl bobl a safai yn nhŷ'r ARGLWYDD,
6. gan ddweud, “Amen, gwnaed yr ARGLWYDD felly; cadarnhaed yr ARGLWYDD y geiriau a broffwydaist, ac adfer o Fabilon i'r lle hwn lestri tŷ'r ARGLWYDD, a'r holl gaethglud.
7. Ond gwrando yn awr ar y gair hwn a lefaraf yn dy glyw, ac yng nghlyw'r holl bobl:
8. bu'r proffwydi a fu o'm blaen i ac o'th flaen di, o'r amser gynt, yn proffwydo rhyfeloedd a newyn a haint yn erbyn gwledydd lawer a theyrnasoedd mawrion.
9. Am y sawl sy'n proffwydo heddwch, gwyddys am y proffwyd hwnnw, mai'r ARGLWYDD yn wir a'i hanfonodd, os daw ei air i ben.”
10. Yna cymerodd Hananeia y barrau oddi ar war y proffwyd Jeremeia, a'u torri.
11. Dywedodd Hananeia yng ngŵydd yr holl bobl, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Felly, o fewn dwy flynedd, torraf iau Nebuchadnesar brenin Babilon oddi ar war yr holl genhedloedd.’ ” Yna aeth y proffwyd Jeremeia ymaith.