Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 27:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd ynghylch y colofnau, y môr a'r trolïau, ac ynghylch gweddill y llestri a adawyd yn y ddinas hon,

20. heb eu cymryd ymaith gan Nebuchadnesar brenin Babilon pan gaethgludodd Jechoneia fab Jehoiacim, brenin Jwda, o Jerwsalem i Fabilon, ynghyd â holl uchelwyr Jwda a Jerwsalem.

21. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, ynghylch y llestri a adawyd yn nhŷ'r ARGLWYDD a thŷ brenin Jwda a Jerwsalem:

22. ‘I Fabilon y dygir hwy, ac yno y byddant hyd y dydd y ceisiaf fi hwy,’ medd yr ARGLWYDD; ‘yna fe'u cyrchaf a'u hadfer i'r lle hwn.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 27