Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 27:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn nechrau teyrnasiad Sedeceia fab Joseia, brenin Jwda, daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD.

2. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD: “Gwna i ti rwymau a barrau iau, a'u gosod ar dy war;

3. ac anfon at frenhinoedd Edom, Moab, Ammon, Tyrus a Sidon, trwy law'r cenhadau a ddaw i Jerwsalem at Sedeceia brenin Jwda.

4. Gorchmynna iddynt ddweud hyn wrth eu meistriaid, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Fel hyn y dywedwch wrth eich meistriaid:

5. “Â'm gallu mawr ac â'm braich estynedig gwneuthum y ddaear, a phobl, a'r anifeiliaid sydd ar wyneb y ddaear, a'u rhoi i'r sawl y gwelaf yn dda.

6. Yn awr, rhof y gwledydd hyn oll yn llaw fy ngwas Nebuchadnesar brenin Babilon, a rhof hyd yn oed yr holl anifeiliaid gwyllt iddo ef i'w wasanaethu.

7. Bydd yr holl genhedloedd yn ei wasanaethu ef a'i fab a mab ei fab, nes dod awr ei wlad yntau, a'i feistroli gan genhedloedd niferus a brenhinoedd mawrion.

8. Os bydd cenedl neu deyrnas heb wasanaethu Nebuchadnesar brenin Babilon, a heb roi ei gwar dan iau brenin Babilon, mi gosbaf y genedl honno â'r cleddyf a newyn a haint,” medd yr ARGLWYDD, “nes imi ei dinistrio'n llwyr trwy ei law ef.

9. Peidiwch â gwrando ar eich proffwydi na'ch dewiniaid na'ch breuddwydwyr na'ch hudolion na'ch swynwyr, sy'n llefaru wrthych gan ddweud, ‘Ni fyddwch yn gwasanaethu brenin Babilon.’

10. Oherwydd proffwydant gelwydd i chwi, er mwyn eich gyrru ymhell o'ch tir, ac i mi eich alltudio ac i chwi drengi.

11. Ond y genedl a rydd ei gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu, gadawaf honno yn ei thir,” medd yr ARGLWYDD; “caiff ei drin a thrigo ynddo.” ’ ”

12. Lleferais wrth Sedeceia brenin Jwda hefyd yn unol â'r holl eiriau hyn, gan ddweud, “Rhowch eich gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu ef a'i bobl, er mwyn ichwi gael byw.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 27