Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 27:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn nechrau teyrnasiad Sedeceia fab Joseia, brenin Jwda, daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD.

2. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD: “Gwna i ti rwymau a barrau iau, a'u gosod ar dy war;

3. ac anfon at frenhinoedd Edom, Moab, Ammon, Tyrus a Sidon, trwy law'r cenhadau a ddaw i Jerwsalem at Sedeceia brenin Jwda.

4. Gorchmynna iddynt ddweud hyn wrth eu meistriaid, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Fel hyn y dywedwch wrth eich meistriaid:

5. “Â'm gallu mawr ac â'm braich estynedig gwneuthum y ddaear, a phobl, a'r anifeiliaid sydd ar wyneb y ddaear, a'u rhoi i'r sawl y gwelaf yn dda.

6. Yn awr, rhof y gwledydd hyn oll yn llaw fy ngwas Nebuchadnesar brenin Babilon, a rhof hyd yn oed yr holl anifeiliaid gwyllt iddo ef i'w wasanaethu.

7. Bydd yr holl genhedloedd yn ei wasanaethu ef a'i fab a mab ei fab, nes dod awr ei wlad yntau, a'i feistroli gan genhedloedd niferus a brenhinoedd mawrion.

8. Os bydd cenedl neu deyrnas heb wasanaethu Nebuchadnesar brenin Babilon, a heb roi ei gwar dan iau brenin Babilon, mi gosbaf y genedl honno â'r cleddyf a newyn a haint,” medd yr ARGLWYDD, “nes imi ei dinistrio'n llwyr trwy ei law ef.

9. Peidiwch â gwrando ar eich proffwydi na'ch dewiniaid na'ch breuddwydwyr na'ch hudolion na'ch swynwyr, sy'n llefaru wrthych gan ddweud, ‘Ni fyddwch yn gwasanaethu brenin Babilon.’

10. Oherwydd proffwydant gelwydd i chwi, er mwyn eich gyrru ymhell o'ch tir, ac i mi eich alltudio ac i chwi drengi.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 27