Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 26:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn nechrau teyrnasiad Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, daeth y gair hwn oddi wrth yr ARGLWYDD:

2. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Saf yng nghyntedd tŷ'r ARGLWYDD a phan ddaw holl ddinasoedd Jwda i addoli yn nhŷ'r ARGLWYDD, llefara wrthynt yr holl eiriau a orchmynnaf, heb atal gair.

3. Efallai y gwrandawant, a dychwelyd, pob un o'i ffordd ddrwg, a minnau'n newid fy meddwl am y drwg a fwriedais iddynt oherwydd eu gweithredoedd drygionus.

4. Dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Os na wrandewch arnaf, a rhodio yn ôl fy nghyfraith a rois o'ch blaen,

5. a gwrando ar eiriau fy ngweision y proffwydi a anfonaf atoch—fel y gwnaed yn gyson, a chwithau heb wrando—

6. yna gwnaf y tŷ hwn fel Seilo, a'r ddinas hon yn felltith i holl genhedloedd y ddaear.’ ”

7. Clywodd yr offeiriaid a'r proffwydi a'r holl bobl Jeremeia yn llefaru'r geiriau hyn yn nhŷ'r ARGLWYDD.

8. Pan orffennodd fynegi'r cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD wrth yr holl bobl, daliodd yr offeiriaid a'r proffwydi a'r holl bobl ef, a dweud, “Rhaid iti farw;

9. pam y proffwydaist yn enw'r ARGLWYDD a dweud, ‘Bydd y tŷ hwn fel Seilo, a gwneir y ddinas hon yn anghyfannedd, heb breswylydd’?” Yna ymgasglodd yr holl bobl o gwmpas Jeremeia yn nhŷ'r ARGLWYDD.

10. Pan glywodd tywysogion Jwda am hyn, daethant i fyny o dŷ'r brenin i dŷ'r ARGLWYDD, ac eistedd yn nrws porth newydd tŷ'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 26