Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 25:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Peidiwch â mynd ar ôl duwiau eraill, i'w gwasanaethu a'u haddoli, a pheidiwch â'm digio â gwaith eich dwylo; yna ni wnaf niwed i chwi.’

7. Ond ni wrandawsoch arnaf,” medd yr ARGLWYDD, “ond fy nigio â gwaith eich dwylo, er niwed i chwi.

8. “Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau,

9. yr wyf yn anfon am holl lwythau'r gogledd,’ medd yr ARGLWYDD, ‘ac am Nebuchadnesar brenin Babilon, fy ngwas, a'u dwyn yn erbyn y wlad hon a'i phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; a difrodaf hwy a'u gosod yn ddychryn ac yn syndod ac yn anghyfanedd-dra hyd byth.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 25