Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 24:3-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Beth a weli di, Jeremeia?” A dywedais, “Ffigys; y ffigys da yn dda iawn, a'r rhai drwg yn ddrwg iawn, na ellid eu bwyta gan mor ddrwg oeddent.”

4. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf:

5. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Fel y ffigys da hyn yr ystyriaf y rhai a gaethgludwyd o Jwda, ac a yrrais o'r lle hwn er eu lles i wlad y Caldeaid.

6. Cadwaf fy ngolwg arnynt er daioni, a dygaf hwy'n ôl i'r wlad hon, a'u hadeiladu, ac nid eu tynnu i lawr; eu plannu ac nid eu diwreiddio.

7. Rhof iddynt galon i'm hadnabod, mai myfi yw'r ARGLWYDD; a byddant yn bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy. Byddant yn troi ataf fi â'u holl galon.’

8. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Fel y ffigys drwg, na ellid eu bwyta gan mor ddrwg oeddent, yr ystyriaf Sedeceia brenin Jwda, a'i dywysogion, a gweddill Jerwsalem a adewir yn y wlad hon, a'r rhai sy'n trigo yng ngwlad yr Aifft.

9. Gwnaf hwy'n arswyd, yn gywilydd i holl deyrnasoedd y ddaear, ac yn ddihareb a gwatwar a melltith, ym mhob man lle'r alltudiaf hwy.

10. Gyrraf arnynt gleddyf a newyn a haint, nes eu difodi o'r tir a rois iddynt ac i'w hynafiaid.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 24