Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 24:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Yn un cawell yr oedd ffigys da iawn, fel ffigys blaenffrwyth, ac yn yr ail gawell ffigys drwg iawn, na ellid eu bwyta gan mor ddrwg oeddent.

3. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Beth a weli di, Jeremeia?” A dywedais, “Ffigys; y ffigys da yn dda iawn, a'r rhai drwg yn ddrwg iawn, na ellid eu bwyta gan mor ddrwg oeddent.”

4. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf:

5. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Fel y ffigys da hyn yr ystyriaf y rhai a gaethgludwyd o Jwda, ac a yrrais o'r lle hwn er eu lles i wlad y Caldeaid.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 24