Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 23:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Gwae chwi fugeiliaid, sydd yn gwasgaru defaid fy mhorfa ac yn eu harwain ar grwydr,” medd yr ARGLWYDD.

2. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, am y bugeiliaid sy'n bugeilio fy mhobl: “Gwasgarasoch fy mhraidd, a'u hymlid ymaith, heb wylio drostynt; ond yr wyf fi am ymweld â chwi am eich gwaith drygionus,” medd yr ARGLWYDD.

3. “Yr wyf fi am gasglu ynghyd weddill fy mhraidd o'r holl wledydd lle y gyrrais hwy, a'u dwyn drachefn i'w corlan; ac fe amlhânt yn ffrwythlon.

4. Gosodaf arnynt fugeiliaid a'u bugeilia, ac nid ofnant mwyach, na chael braw; ac ni chosbir hwy,” medd yr ARGLWYDD.

5. “Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD,“y cyfodaf i Ddafydd Flaguryn cyfiawn,brenin a fydd yn llywodraethu'n ddoeth,yn gwneud barn a chyfiawnder yn y tir.

6. Yn ei ddyddiau ef fe achubir Jwdaac fe drig Israel mewn diogelwch;dyma'r enw a roddir iddo:‘Yr ARGLWYDD ein Cyfiawnder.’

7. “Am hynny, wele'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “pryd na ddywed neb mwyach, ‘Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel i fyny o wlad yr Aifft’,

8. ond, ‘Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel o dir y gogledd, a'u tywys o'r holl wledydd lle y gyrrais hwy, i drigo eto yn eu gwlad eu hunain.’ ”

9. Am y proffwydi:Torrodd fy nghalon, y mae fy esgyrn i gyd yn crynu;yr wyf fel dyn mewn diod, gŵr wedi ei orchfygu gan win,oherwydd yr ARGLWYDD ac oherwydd ei eiriau sanctaidd.

10. Y mae'r tir yn llawn o odinebwyr,ac o'u herwydd hwy y mae'r wlad wedi ei deifio,y mae porfeydd yr anialwch wedi crino;y mae eu hynt yn ddrwg a'u cadernid yn ddim.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 23