Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 22:20-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Dring i Lebanon, a gwaedda;yn Basan cod dy lef;bloeddia o Abarim,“Dinistriwyd pawb sy'n dy garu.”

21. Lleferais wrthyt yn dy wynfyd;dywedaist, “Ni wrandawaf.”Dyma dy ffordd o'th ieuenctid,ac ni wrandewaist arnaf.

22. Bugeilia'r gwynt dy holl fugeiliaid,ac i gaethiwed yr â dy geraint;yna fe'th gywilyddir a'th waradwyddoam dy holl ddrygioni.

23. Ti, sy'n trigo yn Lebanon,ac a fagwyd rhwng y cedrwydd,O fel y llefi pan ddaw arnat wewyr,pangfeydd fel gwraig yn esgor!

24. “Cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr ARGLWYDD, “pe byddai Coneia, mab Jehoiacim brenin Jwda, yn fodrwy ar fy llaw dde, fe'th dynnwn di oddi yno,

25. a'th roi yng ngafael y rhai sy'n ceisio dy einioes, ac yng ngafael y rhai yr wyt yn ofni rhagddynt, sef yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yn llaw y Caldeaid.

26. Fe'th fwriaf di, a'th fam a'th esgorodd, i wlad ddieithr lle ni'ch ganwyd, ac yno byddwch farw.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 22