Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 20:9-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Os dywedaf, “Ni soniaf amdano,ac ni lefaraf mwyach yn ei enw”,y mae yn fy nghalon yn llosgi fel tânwedi ei gau o fewn fy esgyrn.Blinaf yn ymatal; yn wir, ni allaf.

10. Clywais sibrwd gan lawer—dychryn-ar-bob-llaw:“Cyhuddwch ef! Fe'i cyhuddwn ni ef!”Y mae pawb a fu'n heddychlon â miyn gwylio am gam gwag gennyf, ac yn dweud,“Efallai yr hudir ef, ac fe'i gorchfygwn, a dial arno.”

11. Ond y mae'r ARGLWYDD gyda mi,fel rhyfelwr cadarn;am hynny fe dramgwydda'r rhai sy'n fy erlid,ac ni orchfygant;gwaradwyddir hwy'n fawr, canys ni lwyddant,ac nid anghofir fyth eu gwarth.

12. O ARGLWYDD y Lluoedd, yr wyt yn profi'r cyfiawn,ac yn gweld y galon a'r meddwl;rho imi weld dy ddialedd arnynt,canys dadlennais i ti fy nghwyn.

13. Canwch i'r ARGLWYDD. Moliannwch yr ARGLWYDD.Achubodd einioes y tlawd o afael y rhai drygionus.

14. Melltith ar y dydd y'm ganwyd;na fendiger y dydd yr esgorodd fy mam arnaf.

15. Melltith ar y gŵr aeth â'r neges i'm tad,“Ganwyd mab i ti”,a rhoi llawenydd mawr iddo.

16. Bydded y gŵr hwnnw fel y dinasoedda ddymchwelodd yr ARGLWYDD yn ddiarbed.Bydded iddo glywed gwaedd yn y bore,a bloedd am hanner dydd,

17. oherwydd na laddwyd mohonof yn y groth,ac na fu fy mam yn fedd i mi,a'i chroth yn feichiog arnaf byth.

18. Pam y deuthum allan o'r groth,i weld trafferth a gofid,a threulio fy nyddiau mewn gwarth?

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 20