Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 20:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd Pasur fab Immer, yr offeiriad, yn brif swyddog yn nhŷ'r ARGLWYDD, a phan glywodd fod Jeremeia yn proffwydo'r geiriau hyn,

2. trawodd Pasur y proffwyd Jeremeia, a'i roi yn y cyffion ym mhorth uchaf Benjamin yn nhŷ'r ARGLWYDD.

3. Trannoeth, pan ollyngodd Pasur ef o'r cyffion, dywedodd Jeremeia wrtho, “Nid Pasur y galwodd yr ARGLWYDD di ond Dychryn-ar-bob-llaw.

4. Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Wele fi'n dy wneud yn ddychryn i ti dy hun ac i bawb o'th geraint. Syrthiant wrth gleddyf eu gelynion, a thithau'n gweld. Rhof hefyd holl Jwda yng ngafael brenin Babilon, i'w caethgludo i Fabilon a'u taro â'r cleddyf.

5. Rhof hefyd olud y ddinas hon, a'i holl gynnyrch, a phob dim gwerthfawr sydd ganddi, a holl drysorau brenhinoedd Jwda, yng ngafael eu gelynion, i'w hanrheithio a'u meddiannu a'u cludo i Fabilon.

6. A byddi di, Pasur, a holl breswylwyr dy dŷ, yn mynd i gaethiwed; i Fabilon yr ei, ac yno y byddi farw, a'th gladdu—ti a'th holl gyfeillion y proffwydaist gelwydd iddynt.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 20