7. Ar unrhyw funud gallaf benderfynu diwreiddio a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu deyrnas.
8. Ac os bydd y genedl honno y lleferais yn ei herbyn yn troi oddi wrth ei drygioni, gallaf ailfeddwl am y drwg a fwriedais iddi.
9. Ar unrhyw funud gallaf benderfynu adeiladu a phlannu cenedl neu deyrnas,
10. ond os gwna'r genedl honno ddrygioni yn fy ngolwg, a gwrthod gwrando arnaf, gallaf ailfeddwl am y da a addewais iddi.
11. Yn awr dywed wrth bobl Jwda ac wrth breswylwyr Jerwsalem, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Wele fi'n llunio drwg yn eich erbyn, ac yn cynllunio yn eich erbyn. Dychwelwch, yn wir, bob un o'i ffordd ddrwg, a gwella'ch ffyrdd a'ch gweithredoedd.’
12. Ond dywedant hwy, ‘Y mae pethau wedi mynd yn rhy bell. Dilynwn ein bwriadau ein hunain, a gweithredwn bob un yn ôl ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus.’ ”
13. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Ymofynnwch ymhlith y cenhedloedd,pwy a glywodd ddim tebyg i hyn.Gwnaeth y forwyn Israel beth erchyll iawn.
14. A gilia eira Lebanon oddi ar greigiau'r llethrau?A sychir dyfroedd yr ucheldir,sy'n ffrydiau oerion?
15. Ond mae fy mhobl wedi f'anghofio,ac wedi arogldarthu i dduwiau gaua barodd iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, yr hen rodfeydd,a cherdded llwybrau mewn ffyrdd heb eu trin.
16. Gwnaethant eu tir yn anghyfannedd,i rai chwibanu drosto hyd byth;bydd pob un sy'n mynd heibio iddo yn synnu,ac yn ysgwyd ei ben.
17. Fel gwynt y dwyrain y chwalaf hwy o flaen y gelyn;yn nydd eu trychineb dangosaf iddynt fy ngwegil, nid fy wyneb.”
18. A dywedodd y bobl, “Dewch, gwnawn gynllwyn yn erbyn Jeremeia; ni chiliodd cyfarwyddyd oddi wrth yr offeiriad, na chyngor oddi wrth y doeth, na gair oddi wrth y proffwyd; dewch, gadewch inni ei faeddu â'r tafod, a pheidio ag ystyried yr un o'i eiriau.”
19. Ystyria fi, O ARGLWYDD,a chlyw beth y mae f'achwynwyr yn ei ddweud.
20. A ad-delir drwg am dda?Cloddiasant bwll ar fy nghyfer.Cofia imi sefyll o'th flaen,i lefaru'n dda amdanyntac i droi ymaith dy ddig oddi wrthynt.
21. Am hynny rho'u plant i'r newyn,lladder hwy trwy rym y cleddyf;bydded eu gwragedd yn weddwon di-blant,a'u gwŷr yn farw gelain,a'u gwŷr ifainc wedi eu taro â'r cleddyf mewn rhyfel.
22. Bydded i waedd godi o'u tai,am i'r ysbeiliwr ddod yn ddisymwth ar eu gwarthaf;canys cloddiasant bwll i'm dal,a chuddio maglau i'm traed.
23. Ond yr wyt ti, O ARGLWYDD, yn gwybodam eu holl gynllwyn yn f'erbyn, i'm lladd.Paid â maddau iddynt eu camwedd,na dileu eu pechod o'th ŵydd.Bydded iddynt faglu o'th flaen;delia â hwy yn awr dy ddigofaint.