Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 18:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Fel gwynt y dwyrain y chwalaf hwy o flaen y gelyn;yn nydd eu trychineb dangosaf iddynt fy ngwegil, nid fy wyneb.”

18. A dywedodd y bobl, “Dewch, gwnawn gynllwyn yn erbyn Jeremeia; ni chiliodd cyfarwyddyd oddi wrth yr offeiriad, na chyngor oddi wrth y doeth, na gair oddi wrth y proffwyd; dewch, gadewch inni ei faeddu â'r tafod, a pheidio ag ystyried yr un o'i eiriau.”

19. Ystyria fi, O ARGLWYDD,a chlyw beth y mae f'achwynwyr yn ei ddweud.

20. A ad-delir drwg am dda?Cloddiasant bwll ar fy nghyfer.Cofia imi sefyll o'th flaen,i lefaru'n dda amdanyntac i droi ymaith dy ddig oddi wrthynt.

21. Am hynny rho'u plant i'r newyn,lladder hwy trwy rym y cleddyf;bydded eu gwragedd yn weddwon di-blant,a'u gwŷr yn farw gelain,a'u gwŷr ifainc wedi eu taro â'r cleddyf mewn rhyfel.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 18