1. Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:
2. “Cod a dos i lawr i dŷ'r crochenydd; yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau.”
3. Euthum i lawr i dŷ'r crochenydd, a'i gael yn gweithio ar y droell.
4. A difwynwyd yn llaw'r crochenydd y llestr pridd yr oedd yn ei lunio, a gwnaeth ef yr eildro yn llestr gwahanol, fel y gwelai'n dda.
5. Yna daeth gair yr ARGLWYDD ataf,
6. “Oni allaf fi eich trafod chwi, tŷ Israel, fel y mae'r crochenydd hwn yn ei wneud â'r clai?” medd yr ARGLWYDD. “Fel clai yn llaw'r crochenydd, felly yr ydych chwi yn fy llaw i, tŷ Israel.
7. Ar unrhyw funud gallaf benderfynu diwreiddio a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu deyrnas.