Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 18:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:

2. “Cod a dos i lawr i dŷ'r crochenydd; yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau.”

3. Euthum i lawr i dŷ'r crochenydd, a'i gael yn gweithio ar y droell.

4. A difwynwyd yn llaw'r crochenydd y llestr pridd yr oedd yn ei lunio, a gwnaeth ef yr eildro yn llestr gwahanol, fel y gwelai'n dda.

5. Yna daeth gair yr ARGLWYDD ataf,

6. “Oni allaf fi eich trafod chwi, tŷ Israel, fel y mae'r crochenydd hwn yn ei wneud â'r clai?” medd yr ARGLWYDD. “Fel clai yn llaw'r crochenydd, felly yr ydych chwi yn fy llaw i, tŷ Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 18