Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 17:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. ac ar gyrn eu hallorau i atgoffa eu plant.Y mae eu hallorau a'u pyst wrth ymyl prennau gwyrddlas ar fryniau uchel,

3. yn y mynydd-dir a'r meysydd.Gwnaf dy gyfoeth a'th drysorau yn anrhaith,yn bris am dy bechod trwy dy holl derfynau.

4. Gollyngi o'th afael yr etifeddiaeth a roddais i ti,a gwnaf i ti wasanaethu dy elynion mewn gwlad nad adwaenost,canys yn fy nicter cyneuwyd tân a lysg hyd byth.”

5. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Melltigedig fo'r sawl sydd â'i hyder mewn meidrolyn,ac yn gwneud cnawd yn fraich iddo,ac yn gwyro oddi wrth yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 17