Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 17:15-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Ie, dywedant wrthyf,“Ple mae gair yr ARGLWYDD? Deued yn awr!”

16. Ond myfi, ni phwysais arnat i'w drygu,ac ni ddymunais iddynt y dydd blin.Gwyddost fod yr hyn a ddaeth o'm genau yn uniawn ger dy fron.

17. Paid â bod yn ddychryn i mi;fy nghysgod wyt ti yn nydd drygfyd.

18. Gwaradwydder f'erlidwyr, ac na'm gwaradwydder i;brawycher hwy, ac na'm brawycher i;dwg arnynt hwy ddydd drygfyd,dinistria hwy â dinistr deublyg.

19. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf: “Dos, a saf ym mhorth Benjamin, yr un y mae brenhinoedd Jwda yn mynd i mewn ac allan trwyddo, ac yn holl byrth Jerwsalem,

20. a dywed wrthynt, ‘Clywch air yr ARGLWYDD, O frenhinoedd Jwda, a holl Jwda, a holl drigolion Jerwsalem sy'n dod trwy'r pyrth hyn.

21. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gwyliwch am eich einioes na ddygwch faich ar y dydd Saboth, na'i gludo trwy byrth Jerwsalem;

22. ac na ddygwch faich allan o'ch tai ar y dydd Saboth, na gwneud dim gwaith; ond sancteiddiwch y dydd Saboth, fel y gorchmynnais i'ch hynafiaid.

23. Ond ni wrandawsant hwy, na gogwyddo clust, ond ystyfnigo rhag gwrando, a rhag derbyn disgyblaeth.

24. Er hynny, os gwrandewch yn ddyfal arnaf, medd yr ARGLWYDD, a pheidio â dwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Saboth, ond sancteiddio'r dydd Saboth trwy beidio â gwneud dim gwaith arno,

25. yna fe ddaw trwy byrth y ddinas hon frenhinoedd a thywysogion i eistedd ar orsedd Dafydd, ac i deithio mewn cerbydau a marchogaeth ar feirch—hwy a'u tywysogion, pobl Jwda a phreswylwyr Jerwsalem—a chyfanheddir y ddinas hon hyd byth.

26. A daw pobloedd o ddinasoedd Jwda a chwmpasoedd Jerwsalem, a thiriogaeth Benjamin, o'r Seffela a'r mynydd-dir, a'r Negef, gan ddwyn poethoffrymau ac aberthau, bwydoffrwm a thus, ac offrwm diolch i dŷ'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 17