11. Fel petrisen yn crynhoi cywion nas deorodd,y mae'r sawl sy'n casglu cyfoeth yn anghyfiawn;yng nghanol ei ddyddiau bydd yn ei adael ef,a bydd ei ddiwedd yn ei ddangos yn ynfyd.
12. Gorsedd ogoneddus, ddyrchafedig o'r dechreuad,dyna fan ein cysegr ni.
13. O ARGLWYDD, gobaith Israel,gwaradwyddir pawb a'th adawa;torrir ymaith oddi ar y ddaear y rhai sy'n troi oddi wrthyt,am iddynt adael yr ARGLWYDD, ffynnon y dyfroedd byw.
14. Iachâ fi, O ARGLWYDD, ac fe'm hiacheir;achub fi, ac fe'm hachubir;canys ti yw fy moliant.
15. Ie, dywedant wrthyf,“Ple mae gair yr ARGLWYDD? Deued yn awr!”