Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 17:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Y mae pechod Jwda wedi ei ysgrifennu â phin haearn,a'i gerfio â blaen adamant ar lech eu calon,

2. ac ar gyrn eu hallorau i atgoffa eu plant.Y mae eu hallorau a'u pyst wrth ymyl prennau gwyrddlas ar fryniau uchel,

3. yn y mynydd-dir a'r meysydd.Gwnaf dy gyfoeth a'th drysorau yn anrhaith,yn bris am dy bechod trwy dy holl derfynau.

4. Gollyngi o'th afael yr etifeddiaeth a roddais i ti,a gwnaf i ti wasanaethu dy elynion mewn gwlad nad adwaenost,canys yn fy nicter cyneuwyd tân a lysg hyd byth.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 17