Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 16:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf:

2. “Paid â chymryd iti wraig; na fydded i ti feibion na merched yn y lle hwn.

3. Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y bechgyn a'r genethod a enir yn y lle hwn, ac am y mamau a'u dwg hwy a'r hynafiaid a'u cenhedla yn y wlad hon:

4. ‘Byddant farw o angau dychrynllyd. Ni fydd galaru ar eu hôl ac ni chleddir hwy; byddant fel tail ar wyneb y tir. Fe'u lleddir gan gleddyf a newyn, a bydd eu celanedd yn ymborth i adar y nefoedd a bwystfilod gwyllt.’

5. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Paid â mynd i dŷ galar, na mynd i alaru na chydymdeimlo, oherwydd cymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a hefyd fy nghariad a'm tosturi.

6. Byddant farw, yn fawr a bach, yn y wlad hon; ni chleddir mohonynt ac ni alerir amdanynt; ni fyddant yn anafu eu cyrff nac yn eillio'u pennau o'u plegid.

7. Ni rennir bara galar i roi cysur iddynt am y marw, ac nid estynnir cwpan cysur am na thad na mam.

8. Ac nid ei di i dŷ gwledd, i eistedd gyda hwy i fwyta ac yfed.’ ”

9. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel:”“Yn y lle hwn, o flaen eich llygaid ac yn eich dyddiau,rwyf yn rhoi taw ar seiniau llawenydd a hapusrwydd,ar lais priodfab a phriodferch.”

10. “Pan fynegi'r holl eiriau hyn i'r bobl, dywedant wrthyt, ‘Pam y llefarodd yr ARGLWYDD yr holl ddrwg mawr hwn yn ein herbyn? Beth yw ein trosedd? Pa bechod a wnaethom yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?’

11. Dywed dithau wrthynt, ‘Oherwydd i'ch hynafiaid fy ngadael i,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a rhodio ar ôl duwiau eraill, a'u gwasanaethu a'u haddoli, a'm gwrthod i, heb gadw fy nghyfraith.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 16