Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 13:2-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Prynais wregys ar air yr ARGLWYDD, a'i roi am fy llwynau.

3. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf eilwaith, a dweud,

4. “Cymer y gwregys a brynaist, ac sydd am dy lwynau, a dos i ymyl afon Ewffrates a'i guddio yno mewn hollt yn y graig.”

5. Felly euthum a'i guddio wrth ymyl afon Ewffrates, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i mi.

6. Ar ôl dyddiau lawer dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Dos i ymyl afon Ewffrates, a chymer oddi yno y gwregys y gorchmynnais iti ei guddio yno.”

7. Euthum innau yno, a chloddio a chymryd y gwregys o'r lle y cuddiais ef; ac wele, yr oedd y gwregys wedi ei ddifetha, ac nid oedd yn dda i ddim.

8. Yna daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

9. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Felly y difethaf finnau falchder Jwda a balchder mawr Jerwsalem.

10. Fel y gwregys yma, nad yw'n dda i ddim, y bydd y bobl ddrygionus hyn, sy'n gwrthod gwrando ar fy ngeiriau, ond yn rhodio yn ystyfnigrwydd eu calon, ac yn dilyn duwiau eraill i'w gwasanaethu a'u haddoli.

11. Oherwydd fel y gafael gwregys am lwynau rhywun, felly y perais i holl dŷ Israel a holl dŷ Jwda afael ynof fi,” medd yr ARGLWYDD, “i fod yn bobl i mi, ac yn enw, ac yn foliant ac yn ogoniant; ond ni wrandawsant.

12. “Dywed wrthynt y gair yma: ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: Llenwir pob costrel â gwin.’ A dywedant wrthyt, ‘Oni wyddom ni'n iawn y llenwir pob costrel â gwin?’

13. Yna dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fi'n llenwi'n feddw holl drigolion y tir hwn, yn frenhinoedd sy'n eistedd ar orseddfainc Dafydd, yn offeiriaid ac yn broffwydi, a holl drigolion Jerwsalem.

14. Drylliaf hwy y naill yn erbyn y llall, rhieni a phlant ynghyd, medd yr ARGLWYDD; nid arbedaf ac ni thosturiaf ac ni thrugarhaf, eithr difethaf hwy.’ ”

15. Clywch a gwrandewch; peidiwch ag ymfalchïo,canys llefarodd yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 13