Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 13:12-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. “Dywed wrthynt y gair yma: ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: Llenwir pob costrel â gwin.’ A dywedant wrthyt, ‘Oni wyddom ni'n iawn y llenwir pob costrel â gwin?’

13. Yna dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fi'n llenwi'n feddw holl drigolion y tir hwn, yn frenhinoedd sy'n eistedd ar orseddfainc Dafydd, yn offeiriaid ac yn broffwydi, a holl drigolion Jerwsalem.

14. Drylliaf hwy y naill yn erbyn y llall, rhieni a phlant ynghyd, medd yr ARGLWYDD; nid arbedaf ac ni thosturiaf ac ni thrugarhaf, eithr difethaf hwy.’ ”

15. Clywch a gwrandewch; peidiwch ag ymfalchïo,canys llefarodd yr ARGLWYDD.

16. Rhowch ogoniant i'r ARGLWYDD eich Duwcyn iddo beri tywyllwch,a chyn i'ch traed faglu yn y gwyll ar y mynyddoedd;a thra byddwch yn disgwyl am olau,bydd yntau'n ei droi yn dywyllwch dudew,ac yn ei wneud yn nos ddu.

17. Ac os na wrandewch ar hyn,mi wylaf yn y dirgel am eich balchder;fe ffrydia fy llygaid ddagrau chwerw,oherwydd dwyn diadell yr ARGLWYDD i gaethiwed.

18. “Dywed wrth y brenin a'r fam frenhines,‘Eisteddwch yn ostyngedig,oherwydd syrthiodd eich coron anrhydeddus oddi ar eich pen.’

19. Caeir dinasoedd y Negef, heb neb i'w hagor;caethgludir Jwda gyfan, caethgludir hi yn llwyr.”

20. Dyrchafwch eich llygaid, a gwelwchy rhai a ddaw o'r gogledd.Ple mae'r praidd a roddwyd i ti, dy ddiadell braf?

21. Beth a ddywedi pan roddir y rhai a ddysgaist yn feistri arnat,a'r rhai a fegaist yn ben arnat?Oni chydia ynot ofidiau, fel gwraig wrth esgor?

22. A phan feddyli, “Pam y digwyddodd hyn i mi?”,yn ôl amlder dy gamwedd y codwyd godre dy wisg,ac y dinoethwyd dy gorff.

23. A newidia'r Ethiopiad ei groen,neu'r llewpard ei frychni?A allwch chwithau wneud daioni,chwi a fagwyd mewn drygioni?

24. “Fe'u chwalaf hwy fel usa chwythir gan wynt y diffeithwch.

25. Hyn fydd dy ran, yr hyn a fesurais i ti,” medd yr ARGLWYDD,“am i ti fy anghofio, ac ymddiried mewn celwydd.

26. Mi godaf odre dy wisg dros dy wyneb,ac amlygir dy warth.

27. Gwelais dy anlladrwydd, dy odineb, dy weryriad nwydus,a budreddi dy buteindra ar fryn a maes.Gwae di, Jerwsalem! Ni fyddi'n lân!Pa hyd, eto, y pery hyn?”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 13