Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 4:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Clywch air yr ARGLWYDD, blant Israel.Y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn trigolion y tir,am nad oes ffyddlondeb, cariad na gwybodaeth o Dduw yn y tir,

2. ond tyngu a chelwydda, lladd a lladrata,godinebu a threisio, a lladd yn dilyn lladd.

3. Am hynny, galara'r wlad, nycha'i holl drigolion;dygir ymaith anifeiliaid y maes,adar yr awyr hefyd a physgod y môr.

4. “Peidied neb ag ymryson, ac na chyhudded neb;y mae fy achos yn dy erbyn di, offeiriad.

5. Yr wyt yn baglu liw dydd,a syrth y proffwyd hefyd gyda thi yn y nos.Dinistriaf dy fam;

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 4